Ysbrydolwch ddisgyblion 7-11 oed i gwympo mewn cariad â darllen a dweud storïau trochi'r haf hwn gyda Gadgeteers - pecyn gweithgareddau AM DDIM gan StoryTrails a Her Ddarllen yr Haf!
Deffrowch ddiddordeb eich disgyblion sy'n anfodlon darllen ac ysgrifennu drwy gyfuno STEM a dweud storïau i ddod â storïau yn fyw, heb fod angen am dechnoleg ddrud. Darganfyddwch ein hadnoddau hygyrch gwych ym Mhecyn Gweithgareddau Ymdrochol y Gadgeteers – mae'n llawn gweithgareddau ystafell ddosbarth ac ar gyfer dysgu gartref sydd wedi’u halinio â'r cwricwlwm Llythrennedd, ynghyd â syniadau am apiau cymelliadol y bydd eich disgyblion wrth eu bodd â nhw.
Beth am ymweld hefyd ag un o'r teithiau trochi StoryTrails yn y DU, a gefnogir gan UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU? Dan arweiniad ap ffôn realiti estynedig, byddwch yn darganfod storïau heb eu dweud o'r gorffennol wrth i chi deithio trwy eich tref. Bydd y daith yn dod i Abertawe a Chasnewydd – chwiliwch am eich lleoliad agosaf a chymerwch ran!
Peidiwch ag oedi! Lawrlwythwch y pecyn Gadgeteers AM DDIM i ddechrau antur dweud storïau eich disgyblion yr haf hwn.
|
|
|
|
Nid yn ystod y tymor yn unig mae cyfleoedd i ddysgu, felly beth am ddarganfod y digwyddiadau anhygoel AM DDIM y gallwch chi a'ch disgyblion eu mwynhau'r haf hwn? Mae UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU yn ddathliad unigryw o greadigrwydd, ac yn llawn dop o rith ddigwyddiadau a rhai ffisegol a fydd yn digwydd ar draws y DU.
Lawrlwythwch ein cynllunydd digidol am ddim i fanteisio ar UNBOXED dros yr haf, mae'n cynnwys adnoddau dysgu a digwyddiadau anhygoel a gynhelir yn eich ardal chi.
|
|
|
|
Llamwch i fyd rhyfeddol
|
Os ydych yn barod i lamu, ewch i wefan neu dudalennau cyfryngau cymdeithasol UNBOXED, i ddysgu mwy am eu 10 comisiwn a beth sydd ar ddod.
|
|
|
|
|