Annwyl,
Mae grymuso'ch dysgwyr i ddeall ein hinsawdd a dychmygu dyfodol mwy gwyrdd yn bwysicach nag erioed. Dyma pam ein bod ni'n gwahodd eich ysgol i gymryd rhan mewn profiad dysgu cwbl unigryw. Gwyliwch! Mae'r SEE MONSTER ar ei ffordd.
Ymunwch â disgyblion rhwng 8 ac 11 oed ledled y DU mewn gwasanaeth rhyngweithiol ar-lein, ar ddydd Iau 13 Hydref 2022, i ddysgu mwy am ailddefnyddio, cynaliadwyedd a thywydd Prydain.
Drwy orchfygu'r SEE MONSTER yn rhithiol, byddwch yn profi adfywiad ar waith, yn dringo llwyfan olew 450 tunnell a 25 medr o uchder, sydd wedi cael ei drawsnewid yn lleoliad gwyrdd hardd, sy'n llawn celf ac sy'n cynhyrchu ynni, yn ogystal â gardd a rhaeadr. Yn ogystal, cewch gwrdd â'r gwyddonwyr hinsawdd ysbrydoledig, yr artistiaid, y peirianwyr a mwy o bobl sy'n gyfrifol am yr anghenfil wrth gymryd rhan.
Yn addas hefyd fel gwers unigol am Ddyniaethau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, neu Iechyd a Llesiant. Cofrestrwch heddiw i gael:
|