UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU y rhaglen greadigol fwyaf uchelgeisiol a gyflwynwyd erioed ar y glannau hyn. Os ydych chi'n chwilio am ffyrdd unigryw o ddod â dysgu'n fyw eleni, yna mae'r Rhaglen Ddysgu AM DDIM UNBOXED ar eich cyfer chi.
Mae'r rhaglen yn cynnig cyfle unwaith mewn oes i Myfyrwyr 11-19 oed gael eu trochi mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg (STEAM), drwy amrywiaeth o brosiectau hynod ledled y DU a phrofiadau dysgu ar-lein AM DDIM.
Dysgwch fwy drwy fynychu gweithdy byw, rhyngweithiol UNBOXED AM DDIM ar gyfer athrawonddydd Mawrth 29 Mawrth, 4-5pm. Cydweithio yn ddigidol ag athrawon ledled y DU, clywed gan brif siaradwyr a dysgu sut i fanteisio i'r eithaf ar yr holl gyfleoedd dysgu am ddim anhygoel sydd gan UNBOXED i'w cynnig.
|
|
|
|
Darganfyddwch sut y gall eich ysgol gerdded drwy fodel epig o gysawd yr haul ar raddfa, dringwch ar lwyfan alltraeth wedi'i drawsnewid yn SEE MONSTER, dychmygwch 2052 fwy positif gyda'ch gilydd a llawer mwy gyda phob un o'n prosiectau trochi unigryw.
Archwiliwch y prosiectau ochr yn ochr â'n hadnoddau sy'n gysylltiedig â chwricwlwm UNBOXED AM DDIM, sy’n darparu popeth sydd ei angen arnoch i greu profiadau dysgu ystyrlon a chreadigol ar draws Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Celfyddydau Mynegiannol ac Iechyd a Lles yn eich ystafell ddosbarth.
|
|
|
|
“Mae'r adnoddau am ddim yn berffaith i unrhyw athro eu cynnwys yn eu cynlluniau gwersi i gynyddu ymgysylltiad yn yr ystafell ddosbarth a darparu profiad dysgu cyffrous.”
|
Bhav, athro yn Swydd Stafford
|
|
|
|
LEAP INTO WONDER
|
If you’re ready to leap in, head to our website or social media pages, where we’ll be sharing more about our 10 comissions and what’s coming.
|
|
|
|
|