Gwasanaeth ac adnoddau ar gynaliadwyedd β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ β€Œ 
GWYLIWCH! MAE'R SEE MONSTER AR EI FFORDD

Annwyl,

Mae grymuso'ch dysgwyr i ddeall ein hinsawdd a dychmygu dyfodol mwy gwyrdd yn bwysicach nag erioed. Dyma pam ein bod ni'n gwahodd eich ysgol i gymryd rhan mewn profiad dysgu cwbl unigryw. Gwyliwch! Mae'r SEE MONSTER ar ei ffordd.

Ymunwch Γ’ disgyblion rhwng 8 ac 11 oed ledled y DU mewn gwasanaeth rhyngweithiol ar-lein, ar ddydd Iau 13 Hydref 2022, i ddysgu mwy am ailddefnyddio, cynaliadwyedd a thywydd Prydain.

Drwy orchfygu'r SEE MONSTER yn rhithiol, byddwch yn profi adfywiad ar waith, yn dringo llwyfan olew 450 tunnell a 25 medr o uchder, sydd wedi cael ei drawsnewid yn lleoliad gwyrdd hardd, sy'n llawn celf ac sy'n cynhyrchu ynni, yn ogystal Γ’ gardd a rhaeadr. Yn ogystal, cewch gwrdd Γ’'r gwyddonwyr hinsawdd ysbrydoledig, yr artistiaid, y peirianwyr a mwy o bobl sy'n gyfrifol am yr anghenfil wrth gymryd rhan.

Yn addas hefyd fel gwers unigol am Ddyniaethau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, neu Iechyd a Llesiant. Cofrestrwch heddiw i gael:

  • Pecyn i 'adeiladu SEE MONSTER eich hun', sydd wedi cael ei anfon i'ch ysgol i'w ddefnyddio yn ystod eich gwasanaeth.

  • Cynnwys sy'n gysylltiedig Γ’'r cwricwlwm ynghylch: β€˜Dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol', 'Meddylfryd dylunio a pheirianneg', 'Ein penderfyniadau' a mwy.

  • Bocs o lyfrau am gynaliadwyedd AM DDIM i'r 100 ysgol cyntaf i gofrestru!

Cofrestrwch AM DDIM
Cynllunydd Hydref AM DDIM

Cewch ysbrydoliaeth ar gyfer y tymor newydd gyda chynllunydd digidol UNBOXED, sy'n orlawn o syniadau gwersi AM DDIM a chyfleoedd dysgu ar gyfer eich ysgol, lle bynnag rydych chi!

O ymweld Γ’'n prosiectau arloesol ym mhob cwr o'r DU, i adnoddau y gellir eu lawrlwytho i ysgogi'ch dysgwyr. Dysgwch sut mae STEM a chreadigrwydd yn plethu gyda'i gilydd mewn ffyrdd arbennig yn ystod y tymor hwn.

Lawrlwythwch y cynllunydd AM DDIM

LEAP INTO WONDER

If you’re ready to leap in, head to the UNBOXED website or social media pages, where we’ll be sharing more about our 10 commissions and what’s coming.

View online

Privacy Policy